Jump to Content

Google i gyd yn gweithio i chi

Mewngofnodwch i'ch Cyfrif Google a manteisiwch i'r eithaf ar yr holl wasanaethau Google rydych chi'n eu defnyddio. Mae'ch cyfrif yn eich helpu i wneud mwy drwy bersonoli'ch profiad yn Google a chynnig ffordd hawdd o weld y wybodaeth fwyaf pwysig i chi o unrhyw le.

Yn eich helpu chi

Pan fyddwch wedi mewngofnodi, mae pob un o'r gwasanaethau Google rydych chi'n eu defnyddio yn cydweithio'n ddi-dor i gynnig help gyda thasgau bob dydd fel cysoni'ch Gmail â'ch Google Calendar a Google Maps i sicrhau eich bod yn medru rheoli eich amserlen.

Wedi'i greu ar eich cyfer chi

Ni waeth pa ddyfais neu wasanaeth Google rydych chi'n ei ddefnyddio, mae eich cyfrif yn rhoi profiad cyson i chi y gallwch chi ei addasu a'i reoli unrhyw bryd.

Yn eich amddiffyn chi

Caiff eich cyfrif Google ei amddiffyn gan ddiogelwch sy'n arwain y diwydiant, i helpu i adnabod ac atal bygythiadau yn awtomatig cyn iddyn nhw eich cyrraedd chi o gwbl.

Yn barod i helpu

Mae gwasanaethau Google, o Chrome i YouTube, yn gweithio'n well ac yn eich helpu i wneud mwy pan fyddwch chi wedi mewngofnodi. Mae eich cyfrif yn rhoi mynediad i chi at nodweddion defnyddiol fel Awtolenwi, argymhellion sydd wedi'u personoli a llawer mwy - unrhyw bryd ar unrhyw ddyfais.
Awtolenwi
Yn gweithio'n well i chi
Arhoswch yn gysylltiedig, ar draws y rhyngrwyd

Awtolenwi

Mae eich Cyfrif Google yn eich helpu i arbed amser trwy lenwi cyfrineiriau, cyfeiriadau a manylion talu yn awtomatig gan ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i chadw i'ch cyfrif.

Yn gweithio'n well i chi

Pan fyddwch chi'n mewngofnodi i'ch Cyfrif Google, mae'r holl wasanaethau Google rydych chi'n eu defnyddio yn gweithio gyda'i gilydd i'ch helpu chi i wneud mwy. Er enghraifft, bydd negeseuon yn cadarnhau hediadau yn eich blwch derbyn Gmail yn cysoni'n awtomatig â'ch Google Calendar a'ch Google Maps i'ch helpu chi i gyrraedd y maes awyr mewn pryd.

Arhoswch yn gysylltiedig, ar draws y rhyngrwyd

O ailddechrau fideos YouTube ar draws dyfeisiau, i gael eich cysylltiadau a'ch hoff apiau Play Store ar gael yn hawdd, mae mewngofnodi unwaith yn caniatáu profiad di-dor ar draws Google. Mae eich Cyfrif Google hefyd yn ei gwneud hi'n hawdd i chi fewngofnodi i apiau trydydd parti yn ddiogel ac yn gyflym fel bod eich dewisiadau'n mynd gyda chi hyd yn oed y tu hwnt i Google.

Stay connected

I chi yn unig

Mae eich Cyfrif Google yn gwneud pob gwasanaeth rydych chi'n ei ddefnyddio yn bersonol i chi. Mewgofnodwch i'ch cyfrif i gael mynediad at eich dewisiadau, preifatrwydd a rheolyddion personoli o unrhyw ddyfais.
Mynediad ar unwaith
Rheolyddion preifatrwydd
Man diogel i'ch gwybodaeth

Mynediad ar unwaith

Nid ydych chi byth yn fwy na thap i ffwrdd o'ch data a'ch gosodiadau. Tapiwch eich llun proffil a dilynwch y ddolen i “Rheoli'ch Cyfrif Google”. O'ch llun proffil, gallwch hefyd fewngofnodi, allgofnodi neu droi'r modd anhysbys ymlaen yn hawdd.

Rheolyddion preifatrwydd

O ran preifatrwydd, rydyn ni'n gwybod nad yw'r un peth yn addas i bawb. Dyna pam mae pob Cyfrif Google yn cynnwys rheolyddion ac offer hawdd eu defnyddio megis Archwiliad Diogelwch fel y gallwch chi ddewis y gosodiadau preifatrwydd sy'n iawn i chi. Gallwch hefyd reoli pa ddata sy'n cael eu cadw yn eich cyfrif gyda rheolyddion hawdd i droi ymlaen/diffodd, a hyd yn oed dileu eich data yn ôl dyddiad, cynnyrch a phwnc.

Privacy Control

Man diogel i'ch gwybodaeth

Mae eich Cyfrif Google yn rhoi lle diogel, canolog i chi storio eich gwybodaeth bersonol - megis cardiau credyd, cyfrineiriau a chysylltiadau - felly mae bob amser ar gael i chi ar draws y rhyngrwyd pan fydd ei hangen arnoch chi.

Cadw'ch gwybodaeth yn breifat ac yn ddiogel